‘Edefyn Heddwch’ gan Bethan Hughes

Image of stitched signature on a long taxtile 'petition' created for the project 'Edefyn Heddwch' / Threads of Peace by artist Bethan Hughes, to celebrate the centenary of the welsh Women's Petition 1924 - 2024

Cywaith pwyth cydweithrediadol arweiniwyd gan yr artist Bethan M. Hughes

gyda chefnogaeth Academi Heddwch, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chanolfan Grefft Rhuthun.

Bethan M Hughes

“Mae llofnodion y cyfranwyr wedi eu brodio â llaw ganddyn nhw, yn ofalus ac yn feddylgar. Rwyf i wedi eu hymgorffori yn y cwilt gorffenedig dan linellau o bwythau cwiltio sy’n efelychu’r miloedd o linellau yn y Ddeiseb. Mae pob llofnod, pob pwyth, yn deyrnged i ferched 1923/4, yn edefyn o gysylltiad, ac yn ddyhead am heddwch heddiw.

Wrth weld delweddau o’r Ddeiseb, fe’m trawyd gan y llawysgrifen, a bod pob un o’r merched wedi cael gwahoddiad i arwyddo yn eu henwau eu hunain yn eu llaw eu hunain, rhywbeth anarferol iawn yn y cyfnod. Dewisais weithio gyda defnyddiau syml, calico ac edau ddu, i adlewyrchu papur ac inc syml y Ddeiseb. Mae’r cynllun yn adleisio’r ffaith y byddai’r Ddeiseb yn 7 milltir o hyd ben wrth ben.

Trefnwyd 11 gweithdy pwyth gyda phwythwyr profiadol a newydd yn dod at ei gilydd i gyd-bwytho, i sgwrsio ac i greu cysylltiadau. Daeth aelodau Merched y Wawr Rhuthun ac eraill i weithdai yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, ac fe gynhaliais weithdai yng Nghanolfan Merched Gogledd Cymru yn y Rhyl, yn Llangollen ac yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Trwy gefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, cynhaliwyd gweithdy arlein a llwyddwyd i dderbyn llofnodion gan ferched yn yr Unol Daleithiau. Wrth bwytho’r cwilt gorffenedig, 16 medr o hyd, roeddwn hefyd yn meddwl am y cyfranwyr a’r cysylltiadau hen a newydd rhyngom.

I lawer o’r cyfranwyr, roedd pwytho eu henwau yn fodd iddynt wneud safiad dros heddwch heddiw, fel y gwnaeth ein neiniau ganrif yn ôl. Trwy weithred dawel, myfyrgar a di-dwyll, mae lleisiau merched yn atsain ac yn cysylltu fel edefyn o heddwch”.

Mwy

Sgwrs gan Bethan Hughes i Academi Heddwch