Themau Ariannu

Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu o dan bedwar prif thema:

 Bywoliaethau Cynaliadwy
 Dysgu Gydol Oes
 Iechyd 
 Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

    Bywoliaethau cynaliadwy

    Erbyn 2050, mi fydd poblogaeth y byd yn bwrw 9 biliwn (UNFPA) ac yn rhoi pwysau anferth ar adnoddau hanfodol sy’n angenrheidiol i unigolion a chymunedau’r presennol i ffynnu, yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol.

    Mae bywoliaeth yn gynaliadwy pan mae gan unigolion a chymunedau fynediad i’r adnoddau hanfodol sydd angen arnynt i ffynnu. Mae mynd i’r afael â thlodi, galluogi gwydnwch economaidd i deuluoedd, cefnogi mentrau ar raddfa fach a chyflogaeth yn allweddol er mwyn cefnogi’r hawl sylfaenol i fywoliaeth gynaliadwy. Mae’n hanfodol i ganiatáu teuluoedd a chymunedau i ymateb, addasu ac i ddod dros bethau tu hwnt i’w rheolaeth.

    Rydym yn ceisio hybu cyfleoedd am fywoliaethau realistig a chynaliadwy yng Nghymru ac Affrica i sicrhau bod unigolion sydd ar y cyrion yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau economaidd a chymdeithasol ar lawr gwlad.

    Er enghraifft, mae’r mentrau rydym yn eu cefnogi yn cynnwys:

    • Cydweithfaoedd wedi eu harwain gan gymunedau sy’n cynhyrchu incwm sydd yn elwa Cymru ac Affrica;
    • Tynnu sylw’r cyhoedd drwy ymgyrchoedd, dadleuwriaeth a pholisi Masnach Deg;
    • Gweithgareddau sy’n dod â’r defnyddiwr yn agosach at y cynhyrchydd mewn ffurf gynaliadwy;
    • Cefnogi prosiectau a gweithgareddau amaethyddol ar raddfa fach; a 
    • Cefnogi gweithgareddau ar lawr gwlad sy’n cynyddu incwm e.e. celf a chrefft.

    Yn ôl i’r dechrau

    Dysgu Gydol Oes

    Yn ein byd sydd wedi ei globaleiddio, mae dysgu yn fwy na meithrin a defnyddio gwybodaeth ffeithiol. Mae hefyd yn cynnwys datblygu sgiliau personol a phroffesiynol drwy gydol oes. Efallai bod modd gwneud hyn drwy ddatblygu hunanhyder pobl ifanc neu drwy amlygu gweithwyr proffesiynol i brofiadau newydd yn Affrica.

    Mae Dysgu Gydol Oes yn darparu cyfle i ni edrych ar ein cymdeithas o’r newydd a’i holi a’i deall yn well, yn ogystal â chreu mwy o ymwybyddiaeth ynghylch materion rhyngwladol.
    Bwriad ein grantiau Dysgu Gydol Oes yw cefnogi unigolion neu grwpiau o blant neu oedolion yng Nghymru ac/neu Affrica i ennill sgiliau a datblygu gwybodaeth.

    Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:

    • Uno cymunedau yng Nghymru gyda’u partneriaid yn Affrica i ddatblygu dealltwriaeth o faterion rhyngwladol a datblygu byd-eang; .
    • Cefnogi anghenion plant dan anfantais yn Affrica, a rhannu’r profiad hwnnw gyda disgyblion ysgol yng Nghymru, a chyfrannu at eu haddysg fyd-eang; a
    • Cefnogi pobl yn Affrica i ddysgu sgiliau ymarferol/galwedigaethol/artistig i wella eu bywoliaethau e.e. theatr a dawns, TG a gwaith coed).

    Yn ôl i’r dechrau

    Iechyd

    Mae’r hawl i gael gofal iechyd o ansawdd da yn hanfodol i gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae hefyd yn un o’r mannau lle mae modd gweld annhegwch yn llwyr. Mae plant o’r Sahara yn Affrica 15 gwaith yn fwy tebygol o farw cyn eu bod yn bum mlwydd oed na phlant mewn rhanbarthau datblygedig (WHO).


    Ar gyfartaledd mae gan wledydd sydd â chyflogau uchel bron 90 o nyrsys a bydwragedd ar gyfer pob 10,000 o bobl, tra bod gan rhai gwledydd incwm isel ychydig yn llai na 2 ar gyfer pob 10,000 o bobl. Mae bron 800 o fenywod yn marw yn ddyddiol yn dilyn cymhlethdodau tra’n feichiog ac wrth roi genedigaeth (Adroddiad WHO Iechyd byd-eang 2014).

    Rydym felly yn ceisio cyfrannu at amddiffyn iechyd a lles meddyliol a chorfforol cymunedau yn Affrica drwy ein grantiau.

    Er enghraifft mae hyn yn cynnwys:

    • Cefnogi rhannu gwybodaeth a sgiliau rhwng sefydliadau iechyd yng Nghymru ac Affrica er mwyn cyd-ddysgu ac i wneud lles;
    • Cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yn Affrica i dderbyn hyfforddiant a chefnogaeth ar raddfa fach; a 
    • Cefnogi cymunedau yng Nghymru ac Affrica i gael gofal iechyd cyfiawn o ansawdd da.

    Yn ôl i’r dechrau

    Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

    Mae’r pwysau ynghylch newid yn yr hinsawdd wedi eu gwaethygu gan annhegwch. Mae’r tlotaf a’r rheiny ar y cyrion wedi eu gwahardd rhag safon byw foddhaol, rhag bod yn rhydd o dlodi, a heb fynediad i wasanaethau hanfodol megis addysg, gofal iechyd, dŵr glân a bwyd maethlon.

    Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd a dirywiad amgylcheddol yn cael eu teimlo gennym ni yma yng Nghymru yn ogystal â'r byd ehangach, ond dengys ymchwil mai’r bobl fwyaf tlawd yn y byd sy'n wynebu'r risg mwyaf.

    Ein huchelgais yw helpu i liniaru effeithiau negyddol a chyfrannu at newid cadarnhaol yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

    Fel rhan o ffrwd ein grantiau ynghylch newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, byddwn yn cefnogi: mentrau sy’n helpu pobl tra’n gweithio tuag at leihau’r dirywiad amgylcheddol a cholled bioamrywiaeth yn Affrica, yn ogystal â gwaith strategol ac ymarferol er mwy lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac amddiffyn pobl rhag effeithiau newid hinsawdd ar gyflenwadau bwyd, faint o ddŵr sydd ar gael neu ddiogelwch.

    Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys:

    • Gweithgareddau sy’n cefnogi ffermwyr yn Affrica i addasu i hinsawdd newidiol; 
    • Prosiectau sy’n galluogi defnyddio ynni adnewyddadwy yn Affrica;
    • Prosiectau sy’n ennyn diddordeb pobl yng Nghymru ar faterion newid hinsawdd, wrth iddynt effeithio Affrica; neu 
    • Gwaith sy’n ceisio cefnogi partneriaid yn Affrica i weithredu arferion datblygu cynaliadwy.

    Yn ôl i’r dechrau